Ymateb i Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau

 

Darparwyd gan: Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dyddiad: Medi 2019

 

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad ac yn cynnig yr ymateb canlynol i’r 8 argymhelliad sydd ynddo. Er ein bod yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o ran arwain a bod gwasanaethau y tu allan i oriau yn rhan o’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru a’r gwasanaethau gofal heb ei drefnu, dylid nodi mai cyfrifoldeb statudol byrddau iechyd o hyd yw darparu gwasanaethau y tu allan i oriau.

 

Mae Llywodraeth Cymru a’r GIG wedi gwneud cryn dipyn o waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddatblygu gwasanaethau y tu allan i oriau. Mae llawer o’r gwaith hwn yn ymateb yn uniongyrchol i argymhellion adroddiad gwreiddiol Swyddfa Archwilio Cymru ac yn rhoi cyd-destun i’r argymhellion a geir yn Adroddiad y PCC. Gellir gweld crynodeb mwy manwl o’r gwaith hwn yn Atodiad 1.

 

 

Argymhelliad 1: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod capasiti yn y gwasanaeth y tu allan i oriau i roi sicrwydd i gleifion a’u helpu i ddefnyddio’r gwasanaethau sydd fwyaf priodol i’w hanghenion.

 

Derbyn

Y byrddau iechyd sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau y tu allan i oriau. Gan ddefnyddio model a ddatblygwyd yn genedlaethol, maent wrthi’n cyflawni darn sylweddol o waith ar hyn o bryd i ddadansoddi a deall union natur ac amseriad y galw. Defnyddir hyn i sicrhau bod y rotas yn cynnwys y cydbwysedd cywir o glinigwyr i fodloni’r galw disgwyliedig hwn. Rydym yn disgwyl i’r model hwn gael ei dreialu dros y gaeaf ac y bydd yn cael ei roi ar waith fel mater o drefn yn 2019/20.

 

Mae’r byrddau iechyd yn rheoli sut y llenwir shifftiau ar gyfer pob grŵp staff y tu allan i oriau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i feddygon teulu. Caiff ffurflen ar lefelau staffio clinigol ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ddwywaith yr wythnos. Mae’r wybodaeth hon ar gael ar gyfer galwadau cynhadledd dyddiol Gweithrediaeth y GIG, ac yn cael eu trafod at ddibenion hwyluso cynllunio gweithredol a chydnerthedd.

 

Mae datblygu un Cyfeiriadur Gwasanaethau canolog, ar draws Iechyd, Awdurdodau Lleol a’r trydydd sector, yn parhau i fod yn elfen hanfodol wrth gefnogi gofal sylfaenol brys – yn enwedig pan fo ystod gynyddol o wasanaethau iechyd a gwasanaethau llesiant yn gweithio o fewn ac ar draws ffiniau sefydliadol. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn cyfeirio cleifion i’r gwasanaeth cywir, boed hynny gan y cleifion eu hunain neu gan weithwyr proffesiynol neu’r gwasanaeth 111. Er enghraifft, yn yr haf lansiwyd Ap Iechyd a Llesiant sy’n darparu mynediad i’r Cyfeiriadur Gwasanaethau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, tra bod gan y cyhoedd fynediad i wefannau DEWIS a Galw Iechyd Cymru y GIG.

 

Argymhelliad 2: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r ffordd y mae’n dyrannu cyllid i fyrddau iechyd ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau er mwyn sicrhau bod y dyraniadau’n adlewyrchu’r anghenion gwasanaeth presennol yn fwy cywir ac yn rhoi mwy o dryloywder o ran buddsoddiad a gwariant gwirioneddol.

 

Gwrthod

Mae cyllid ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau yn cael ei gynnwys o fewn y dyraniad cyffredinol ar gyfer byrddau iechyd. Mae’r argymhelliad yn canolbwyntio ar y dyraniad. Y byrddau iechyd sydd i benderfynu ar lefel briodol y buddsoddiad yn y gwasanaethau hyn, gan ddefnyddio naill ai’r dyraniad GMC, neu trwy dynnu ar eu lefelau sylweddol o gyllid dewisol. Nid yw hyn felly yn y uniongyrchol gysylltiedig â dyraniadau canolog. Mae’r cyfuniad hwn o gyllid yn adlewyrchu’r amrywiaeth ehangach o wasanaethau sydd bellach yn eu lle i gefnogi gwasanaethau y tu allan i oriau. Mae’n hanfodol bod sefydliadau lleol yn deall gwasanaethau lleol. O ystyried hyn, rydym yn cytuno y byddai’n amserol adolygu’r diffiniad cyfredol o wariant i sicrhau bod arian yn fwy tryloyw ac yn adlewyrchu’r ystod ehangach o wasanaethau sydd ar waith bellach i gefnogi mynediad y tu allan i oriau.

 

 

Argymhelliad 3: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhannu arfer da ar draws byrddau iechyd yng Nghymru wrth wneud gwasanaethau y tu allan i oriau’n lleoedd mwy deniadol i weithio ynddynt, fel y dull gweithredu a fabwysiadwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

 

Derbyn

Mae hyn eisoes ar y gweill. Cynhaliwyd Adolygiad Cymheiriaid o bob Bwrdd Iechyd ddiwedd Hydref 2018. Roedd sicrhau bod y tu allan i oriau gwaith yn lle gwell i weithio yn thema bwysig, gyda’r adolygiad yn rhoi cyfle i rannu arferion gorau.

 

Yn dilyn yr adolygiad, cynhyrchwyd adroddiad cryno a oedd yn nodi’r arferion gorau o bob rhan o Gymru, ac fe rannwyd hyn â’r holl fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gynharach eleni. Ymhellach, mae Fforwm Ansawdd a Diogelwch y Tu Allan i Oriau / 111 Cymru Gyfan, sy’n gyfarfod o arweinwyr clinigol a rheolwyr, wedi ad-drefnu gan atgyfnerthu’r broses o rannu arferion gorau yn ymwneud ag ansawdd, diogelwch a rheolaeth. Er enghraifft, mae’r adran glinigol yn rhannu ac yn dysgu o ddigwyddiadau clinigol a damweiniau agos, tra bod yr adran reoli wedi helpu i gyflawni’r polisi newydd sy’n ymwneud â hyfforddiant Dilysu Marwolaeth. Bydd gwefan newydd yn cael ei lansio yn y mis Medi a’i nod fydd darparu ystod o wybodaeth i helpu i hysbysu clinigwyr am fanteision gweithio y tu allan i oriau arferol (gweler hefyd Argymhelliad 4 isod).

 

Nododd yr adolygiad cymheiriaid fod ‘unigedd’ yn ffactor allweddol ym mhenderfyniad rhai clinigwyr i beidio â gweithio y tu allan i oriau. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd ond mae’r newid i weithio mewn timau amlddisgyblaethol, gweithredu 111 a gosod y gwasanaethau y tu allan i oriau o fewn y model gofal sylfaenol 24/7 oll yn helpu i leihau’r teimlad hwn o unigedd, gan wneud gweithio y tu allan i oriau yn gynnig llawer mwy deniadol ar gyfer yr holl staff.

 

 

Argymhelliad 4: Mae pryder gennym am y dirywiad cyffredinol yn nifer y meddygon teulu ar gyfer gwasanaethau yn ystod y dydd ar draws Cymru, yn ogystal â gwasanaethau y tu allan i oriau. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu polisïau i gynyddu nifer y meddygon teulu.

 

Derbyn

Mae’r ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw yn mynd ati’n ddiwyd i dargedu meddygon teulu a meddygon teulu dan hyfforddiant ac fe’i cefnogir gan 2 gynllun cymhelliant i feddygon teulu dan hyfforddiant. Mae’r gyfradd lenwi ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu wedi gwella’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac, o ganlyniad, rydym wedi cynyddu nifer y lleoedd i feddygon teulu o 136 i 160 eleni, gyda’r bwriad o gynyddu nifer y lleoedd ymhellach yn y dyfodol agos. Rydym hefyd yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i gynyddu nifer y llefydd hyfforddi meddygon teulu eto fyth o Awst 2021 ymlaen.

 

 

Rydym hefyd wedi cyflwyno ac yn parhau i ddatblygu nifer o adnoddau i gefnogi cynaliadwyedd y gweithlu gofal sylfaenol, gan gynnwys sefydlu Cofrestr Locwm Cymru gyfan o feddygon teulu locwm. Dyma gam cyntaf allweddol i strwythuro’r gwaith sesiynol a ddarperir i gefnogi’r partneriaid ymhlith meddygon teulu sy’n gweithio yng Nghymru.

 

Mae Addysg Iechyd a Gwella Cymru (AaGIC) wedi ymgymryd â phrosiect i fynd i’r afael ag anawsterau recriwtio staff y tu allan i oriau drwy ddatblygu gwefan benodol sy’n ymroddedig i Ofal Sylfaenol y Tu Allan i Oriau. Diben y wefan yw amlygu cyfleoedd yn y gwasanaeth y tu allan i oriau a denu darpar staff a staff presennol. Bwriedir lansio’r wefan ym mis Medi 2019.

 

 

 

Argymhelliad 5: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datrys problemau sy’n ymwneud ag ansawdd y data sydd ar gael ar nifer y meddygon teulu fel mater o frys oherwydd bod angen data gwell, gan gynnwys ar ofal y tu allan i oriau. Os mai timau amlddisgyblaethol sy’n darparu’r gwasanaethau y tu allan i oriau, mae’n hanfodol gwybod pwy sy’n gweithio ym mhob tîm, i ble y maent yn darparu’r gwasanaeth, a gallu olrhain nifer y staff dros y blynyddoedd.

 

Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) gaffael a gweithredu System Genedlaethol ar gyfer Adrodd am y Gweithlu (WNWRS), sy’n darparu adnodd diogel ar y we a ddatblygwyd i gadw’r wybodaeth am holl staff Practisau Cyffredinol.

 

Yn sgil cyflwyno’r system WNWRS, rydym yn gobeithio gwella ansawdd y data yn gyffredinol ac rydym yn parhau i weithio gyda’r holl randdeiliaid perthnasol i sicrhau bod y data o’r safon uchaf. Rydym yn dibynnu ar y meddygfeydd i ddarparu gwybodaeth mor gyflawn a chywir â phosibl i gefnogi’r broses o gynhyrchu ystadegau o ansawdd uwch.

 

Byddwn yn archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu’r cynllun hwn ymhellach gyda NWSSP, i ystyried sut y gellir casglu gwybodaeth am glinigwyr sy’n gweithio y tu allan i oriau a datblygu cynnig erbyn diwedd Rhagfyr 2019. Os na fydd y datblygiad hwn yn ymarferol, byddwn yn gweithio gyda byrddau iechyd a chlystyrau gofal sylfaenol i gasglu data cywir a chyflawn ar y gweithlu ar gyfer meddygon teulu sy’n gweithio mewn lleoliadau amgen, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau.

 

 

Argymhelliad 6: Rydym yn pryderu ei bod yn ymddangos bod nifer o broblemau’n codi yn sgil anghydraddoldebau cyflog meddygon teulu o gymharu hyn â’r sefyllfa yn Lloegr, yn ogystal â materion trethiant fel yr adroddwyd i ni mewn tystiolaeth. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i’r afael â’r problemau hyn ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y camau gweithredu a gymerwyd i wneud hynny.

 

Gwrthod

Er yr ymddengys fod rhywfaint o hanes o anghydraddoldebau cyflog yn nwyrain ardal Betsi Cadwaladr, nid oes gennym dystiolaeth gadarn o hyn ac nid yw’n ymddangos bod hwn yn fater cenedlaethol. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r materion yn ymwneud â threthiant mewn perthynas ag IR 35 CThEM ond mae’r rhain yn faterion sydd heb eu datganoli. Mae byrddau iechyd wedi gweithredu ar y cyd mewn ymateb i'r materion hyn, tra bod Llywodraeth Cymru wedi olrhain cynnydd ac effaith. Fodd bynnag, mae pryderon mwy a mwy cyffredinol gyda phensiynau ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd ar drywydd y rhain gyda Llywodraeth y DU.

 

Argymhelliad 7: Rydym yn argymell bod yr arfer da ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, o ran atgyfnerthu’r ffordd y mae’n rheoli perfformiad, yn cael ei rannu â byrddau iechyd eraill a bod Llywodraeth Cymru yn edrych yn fanylach ar sut y gall wella trefniadau o ran rhannu arfer da. Efallai y bydd angen i Lywodraeth Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau Cymru ystyried rhoi mwy o gyfarwyddyd, lle y bo’n bosibl, o ran arfer o’r fath a monitro cydymffurfiaeth â chyfarwyddiadau a roddir.

 

Derbyn

Rydym yn gweithio gyda chymuned y tu allan i oriau yng Nghymru i gryfhau’r pwyslais ar ddeall natur y galw o fewn byrddau iechyd unigol o ran amrywiaeth yr achosion ac amser y dydd. Mae hyn yn cynnwys datblygu’r arfer da sydd eisoes wedi’i ddatblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o ran modelu galw a chapasiti fel y gellir ei ddefnyddio ledled Cymru. Mae model ‘Unwaith i Gymru’ wedi cael ei ddatblygu ac mae’n cael ei brofi gan bob Bwrdd Iechyd y gaeaf hwn gyda’r bwriad o’i gyflwyno’n ffurfiol yn barod i’w ddefnyddio yn 2019/20. Credwn mai datblygu’r model clinigol yn seiliedig ar alw yw’r allwedd. Unwaith y bydd y cerrig sylfaen hyn yn eu lle byddwn yn cynyddu’r pwyslais ar reoli perfformiad.     

 

Argymhelliad 8: Rydym yn argymell bod ein pwyllgor olynol yn y chweched Cynulliad yn trafod cynnydd a llwyddiant gweithredu’r gwasanaeth 111 ar ôl ei gyflwyno’n llawn yn 2021/22.

 

Wedi’i nodi

Rydym yn falch o nodi bod y Pwyllgor yn cydnabod llwyddiant y broses o gyflwyno 111 hyd yma ac yn cydnabod y cyfleoedd a ddaw yn sgil y gwasanaeth. Byddem yn croesawu pe bai pwyllgor y chweched cynulliad yn edrych ar gynnydd a llwyddiant y gwasanaeth 111. Bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i GIG Cymru yn y dyfodol ac rydym wrthi’n cefnogi nifer o fentrau i sicrhau ei lwyddiant yn yr hirdymor.

 

 

 

 


Atodiad 1

 

Cynnydd yn dilyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y gwasanaethau y tu allan i oriau – Awst 2018

 

Cefndir

 

Er ein bod yn falch o nodi bod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod bod gan y cyhoedd barch mawr tuag at wasanaethau y tu allan i oriau, roeddem yn derbyn bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn gyfraniad defnyddiol at ddarparu gwasanaeth y tu allan i oriau effeithiol yng Nghymru. Fel mewn rhannau eraill o’r DU, cafwyd problemau yn recriwtio staff clinigol, yn enwedig meddygon teulu yn y cyfnod y tu allan i oriau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  

 

Dros y 2 flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gyda’r GIG, wedi bod yn canolbwyntio ar y meysydd a amlygir yn adroddiad y Swyddfa Archwilio gan ddarparu camau gweithredu cenedlaethol a lleol sy’n gwneud y system yn fwy cydnerth. Ar yr un pryd, mae’r gwaith o gyflwyno 111 wedi cynyddu cydnerthedd ac wedi creu cyfleoedd ar gyfer cynyddu a gwella gwaith rhanbarthol a chenedlaethol.

 

Gwnaeth Swyddfa Archwilio Cymru 8 o brif argymhellion a chredwn fod cryn dipyn o waith wedi’i wneud, a bod llawer ohono ar y gweill cyn cyhoeddi’r Adroddiad, ond oherwydd amseriad yr adroddiad nid oedd y gwaith maes yn cael ei gydnabod yn llawn o reidrwydd yn yr adroddiad terfynol.

 

Yn benodol, roeddem yn cydnabod yr alwad am fwy o gyfranogiad ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru a’r GIG ac mae Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, wedi bod yn darparu arweiniad strategol, gan gadeirio’r Grŵp Gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys (y tu allan i oriau), sy’n cydgysylltu camau gweithredu allweddol ar daith tuag at integreiddio gwasanaethau’n well fel rhan o’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru.

 

Ein huchelgais yw sicrhau mwy o gysondeb a thegwch o ran darparu gwasanaethau y tu allan i oriau ledled Cymru, gan ddysgu o’r arferion gorau sy’n bodoli eisoes. Fodd bynnag, dylid cofio mai’r Byrddau Iechyd yn y pen draw sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

 

Y Model Gofal Sylfaenol i Gymru

 

Mae’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau Gofal Sylfaenol dros y cyfnod 24/7 y mae gwasanaethau y tu allan i oriau yn rhan bwysig ohono. Mae cydnerthedd gwasanaethau yn ystod oriau arferol, a mynediad at y gwasanaethau hynny, yn cael effaith allweddol ar wasanaethau Y Tu Allan i Oriau (OoH). Felly, mae gwasanaethau Y Tu Allan i Oriau yng Nghymru bellach yn cael eu cynllunio yng nghyd-destun strategol y Model Gofal Sylfaenol i Gymru.

 

Mae’r model, sy’n cefnogi’r weledigaeth a amlinellir yn Cymru Iachach, yn seiliedig ar gydweithredu ar lefel leol iawn drwy’r clystyrau gofal sylfaenol i gynllunio gofal a chymorth i ddiwallu anghenion y boblogaeth. Mae cynllunio a chyflenwi dan arweiniad clwstwr yn golygu gofal effeithiol a di-dor gan dîm aml-broffesiynol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, gyda blaenoriaeth i’r bobl salaf.

 

Yn y cyd-destun hwn, mae ein dull yn rhan annatod o wasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gwyddom y gall gwasanaethau a ddarperir yn ystod oriau arferol effeithio ar y galw am wasanaethau y tu allan i oriau. Mae rhai meddygfeydd teulu ledled Cymru yn wynebu heriau o ran cyflawni cynaliadwyedd a hygyrchedd. Rydym yn gweithio’n agos gyda byrddau iechyd a meddygfeydd teulu i fynd i’r afael â’r heriau o ran recriwtio meddygon teulu ac i gyflwyno mynediad at amrywiaeth ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol a chyfeirio pobl at wasanaethau lleol eraill megis fferyllfeydd cymunedol.

 

O ran denu mwy o feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i Gymru, lansiwyd ein hymgyrch genedlaethol a rhyngwladol “Dyma Gymru: Hyfforddi, Gweithio, Byw” ym mis Hydref 2016 i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle gwych i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu. Mae’r ymgyrch wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y gyfradd lenwi ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu. Yn dilyn pob cylch recriwtio eleni, mae 98% o’r llefydd hyfforddi meddygon teulu wedi’u llenwi - 134 o’r 136 o lefydd oedd ar gael. Mae’n gadarnhaol bod mwy o feddygon yn dewis hyfforddi fel meddygon teulu yng Nghymru.

 

Fel y nodwyd, ein strategaeth yw ehangu timau amlddisgyblaethol mewn gofal sylfaenol, gan gynnwys gweithwyr y tu allan i oriau, dan arweiniad meddygon teulu, trwy fuddsoddi mewn amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, megis ymarferwyr uwch, fferyllwyr clinigol, clinigwyr iechyd meddwl a ffisiotherapyddion.

 

Rydym yn mynd ati hefyd i ddiwygio’r contract cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau i wella’r ffordd y cânt eu cynllunio a’u darparu, gan arwain at wasanaethau mwy cynaliadwy a hygyrch.

 

Ers diwygio contract y meddygon teulu yn 2004 a welodd gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yn cael eu tynnu allan o’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, mae’r model ar gyfer darparu gwasanaethau o fewn oriau a thu allan i oriau wedi’i reoli a’i ddarparu drwy ddarparwyr gwahanol (h.y. Mae’r gwasanaethau y tu allan i oriau yn cael eu darparu’n uniongyrchol gan y Byrddau Iechyd a Shropdoc, menter gymdeithasol nid-er-elw ym Mhowys). Fodd bynnag, cydnabyddir bod yna ‘linyn euraid’ gofal brys sy’n rhedeg ar draws y gwasanaethau yn ystod oriau gwaith a thu allan i oriau. Mae’n amlwg bod rheoli gofal sylfaenol brys yn ystod oriau gwaith yn cael effaith ar wasanaethau gofal sylfaenol brys y tu allan i oriau ac i’r gwrthwyneb. Felly, mae angen inni ystyried y cynnig gofal sylfaenol brys 24/7 yn ei gyfanrwydd gan gydnabod y bydd darparu gwasanaethau ychydig yn wahanol yn ystod oriau gwaith a thu allan i oriau.

 

Fel rhan o’r gwaith o weithredu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru, mae gan y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol bum ffrwd waith penodol i ddatblygu camau gweithredu ar lefel genedlaethol i gefnogi’r gwaith o weithredu’r model gofal sylfaenol i Gymru ar lefel leol. Ffrwd waith allweddol yn hyn o beth yw Ffrwd waith y model 24/7, wedi’i labelu’n fwriadol i sicrhau ein bod yn ystyried beth yw’r cynnig cyffredinol i’r cyhoedd. Cydnabyddir bod y gwasanaethau gofal brys sy’n cael eu cynnig i’r cyhoedd gan wasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol ledled Cymru yn wahanol iawn, yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd, a lleoliad y darpar glaf yn aml. Mae’r ffrwd waith hon yn ceisio sicrhau, cyn belled ag y bo’n bosibl, bod y gwasanaeth a gynigir yn gyson ac yn briodol o ran amser y dydd ac yn ddaearyddol. Er ein bod yn cydnabod y bydd y gwasanaethau a ddarperir ychydig yn wahanol yn ystod oriau gwaith a thu allan i oriau, dylai egwyddorion ac elfennau cyffredinol y model fod yr un fath, er enghraifft systemau trafod galwadau, y tîm amlddisgyblaethol estynedig a’r seilwaith gwasanaethau cymunedol ehangach (elfennau allweddol yn y Model Gofal Sylfaenol i Gymru).  

Mae’r ffrwd waith 24/7 yn canolbwyntio ar wasanaethau gofal brys o fewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol a dylai ategu gwaith y Bwrdd Gofal Heb Ei Drefnu Cenedlaethol. Bydd y ffrwd waith yn ymdrin â’r camau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r adolygiad cymheiriaid diweddar o wasanaethau y tu allan i oriau, buddsoddiadau mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol sy’n gysylltiedig â chyfnod y gaeaf, metrigau a dulliau uwchgyfeirio o fewn gofal sylfaenol, mynediad i holl ôl-troed contractwyr annibynnol mewn ardal a’r defnydd ohono a llwyddiant darparu gwasanaeth brysbennu clinigol yn ystod oriau gwaith gwasanaethau meddygol cyffredinol a’r opsiynau cysylltiedig. Bydd gan y gwaith hwn friff cadw llygad ar ddatblygiad y segmentu poblogaeth a haenu risgiau ar lefel clwstwr.

 

Arweinyddiaeth

 

Mae gwaith y Grŵp Gofal Sylfaenol Brys (y tu allan i oriau), a gadeirir gan Judith Paget, yn parhau i ganolbwyntio ar faterion penodol ar gyfer y gwasanaethau y tu allan i oriau sydd eisoes wedi’u nodi. Fodd bynnag, ceir aliniad cryf â’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol a, lle y bo’n briodol, mae camau gweithredu’n cael eu datblygu drwy ffrwd waith y Rhaglen Strategol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu model ‘cyfunol’ ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft:

 

-       Cynlluniau ar gyfer y gaeaf - bydd y ffrwd waith 24/7 yn ystyried yr holl fuddsoddiadau diweddar mewn gofal sylfaenol a chymunedol (ar draws oriau a’r tu allan i oriau) er mwyn datblygu canllaw ar gyfer dim mwy na 10 gwasanaeth/menter o fewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol sy’n ychwanegu gwerth sylweddol i’r system gyfan o ran rheoli galw a chapasiti cyflenwi ar adegau galw brig.

-       Metrigau ac offer uwchgyfeirio - unwaith eto, nid yw’r rhain wedi eu datblygu ddigon o fewn gofal sylfaenol o gymharu â gofal eilaidd. Un o ganlyniadau’r ffrwd waith 24/7 yw sicrhau bod yna ddulliau uwchgyfeirio ar waith sy’n caniatáu asesiad cyflym o ystyriaethau capasiti mewn gofal sylfaenol (o fewn a thu allan i oriau) gyda mecanweithiau cymorth yn eu sgil.

-       Gwasanaethau a llwybrau cymunedol ehangach – un ffocws yn y ffrwd waith 24/7 yw ymateb gwasanaeth cymunedol cyson a safonol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol sy’n atal derbyniadau brys i’r ysbyty y gellir eu hosgoi. Gwyddom fod yna bwysau arbennig ynghlwm wrth anghenion gofal cymdeithasol heb eu trefnu y tu allan i oriau, felly mae’n bwysig bod y ffocws yn ehangach nag iechyd yn unig.

 

Yn ystod y misoedd nesaf, y bwriad yw y bydd y camau gweithredu sy’n ymwneud â gwasanaethau y tu allan i oriau yn cyd-fynd â’r Rhaglen Strategol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae angen i’r Grŵp Gofal Sylfaenol Brys (y tu allan i oriau) barhau i sicrhau ffocws a phroffil ar rai o’r meysydd hollbwysig a nodwyd ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau. (I’w nodi, y Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol sy’n gyfrifol am lywodraethiant trosfwaol y Rhaglen Strategol a’r Grŵp Gofal Sylfaenol Brys).

 

Roedd y broses adolygiad cymheiriaid a gyflwynwyd yn 2018 (ac sydd i’w hailadrodd yn 2019), yn adolygiad dan arweiniad clinigol o wasanaeth y tu allan i oriau pob bwrdd iechyd, a gynlluniwyd i weithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ i gynnig cyngor a chymorth fel rhan o’r gwaith o ddatblygu gwasanaeth y tu allan i oriau diogel ac effeithiol.

 

Arweiniwyd y Panel Adolygiad Cymheiriaid gan Gadeirydd annibynnol (Dr CDV Jones) gydag aelodaeth yn cynnwys Cyfarwyddwyr Clinigol, arweinwyr gweithredol, Cyfarwyddwyr Meddygol Cysylltiol, Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Rhaglen 111, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), RCGP a Llywodraeth Cymru. Roedd y canlyniadau arfaethedig yn cynnwys:

 

Ø  cydnabod arferion da a dysgu a rennir;

Ø  darparu cefnogaeth gadarnhaol gan gymheiriaid ar gyfer gwella;

Ø  cynnig mwy o eglurder o ran cyfeiriad i GIG Cymru mewn perthynas â’r trawsnewidiad ehangach mewn gofal sylfaenol brys a mwy o gysondeb o ran gweithredu gwasanaethau yn ystod oriau gwaith a thu allan i oriau (24/7); a

Ø  helpu i ddatblygu model cynaliadwy i Gymru sy’n canolbwyntio ar atebion dan arweiniad clinigol.

 

Roedd yr allbwn o bob adolygiad yn cynnwys adroddiad cryno a chynllun gweithredu a gymeradwywyd gan arweinwyr clinigol lleol a’r tîm gweithredol ehangach.

 

Y prif negeseuon a ddeilliodd o ymweliadau’r adolygiad cymheiriaid oedd:

 

·      Mae angen cryfhau cynlluniau gweithlu lleol a chenedlaethol i sicrhau eu bod yn cefnogi meddygon teulu sy’n arwain ac yn gweithio o fewn tîm amlddisgyblaethol ehangach.

·      Dylai Gofal Sylfaenol Brys (y tu allan i oriau) fabwysiadu dull mwy cyson o gynllunio galw a chapasiti sy’n gysylltiedig â modelu’r gweithlu.

·      Nawr bod BILlau i gyd ar yr un fersiwn o Adastra, dylai fod yn bosibl meincnodi mewn modd mwy cyson.

·      Mae sicrhau prosesau brysbennu clinigol ac anghlinigol effeithiol yn hanfodol i effeithiolrwydd y llwybrau gofal brys. Mae tîm 111 yn helpu i safoni’r dulliau gweithredu hyn ledled Cymru, ac yn gynyddol bydd mwy o gyfle i ddatblygu’r rhain ar lefel ranbarthol neu genedlaethol.

·      Yn gynyddol, bydd yr integreiddio rhwng 111, Galw Iechyd Cymru, a’r gwasanaethau y tu allan i oriau yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer cydnerthedd ehangach y system.

·      Gallai rôl canolfan glinigol 111 (dros amser) gynnig cyngor a chymorth gofal brys yn gynyddol ar gyfer nifer o lwybrau clinigol allweddol megis iechyd meddwl, gofal deintyddol a lliniarol a chyngor pediatrig.

·      Mae cynnal a diweddaru un cyfeiriadur canolog o wasanaethau (ar draws iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector) yn parhau i fod yn elfen hanfodol i gefnogi gofal sylfaenol brys – yn enwedig pan fo ystod gynyddol o wasanaethau.

·      Nododd yr adolygiad cymheiriaid amrywiadau o ran adrodd am ddigwyddiadau difrifol, damweiniau agos ac achosion nad oedd byth yn digwydd. Dylai prosesau gael eu hadolygu a’u cryfhau’n lleol er mwyn sicrhau dysgu parhaus rhwng timau clinigol (yn lleol ac yn genedlaethol) ac at ddibenion llywodraethu clinigol ehangach. Mae’r Fforwm Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Brys / Y Tu Allan i Oriau wedi adolygu eu dulliau adrodd i sicrhau eu bod yn gadarn ac effeithiol ac wedi’u cysylltu â strwythurau llywodraethu priodol o fewn pob sefydliad.

·      Mae amgylcheddau gwaith lleol yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn ffafriol i ofal cleifion a lles staff a, lle bo hynny’n briodol, eu bod yn cael mynediad at ystod debyg o wasanaethau a’u cydweithwyr sy’n gweithio o fewn oriau arferol.

·      Roedd BILlau, 111 a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’n frwd ystod o fentrau fel rhan o’r cynllunio ar gyfer y gaeaf yn 2018/19. Canolbwyntiwyd yn benodol ar fewnbwn ehangach timau amlddisgyblaethol gan gynnwys cymorth i fferyllfeydd, iechyd meddwl, gofal lliniarol, uwch ymarferwyr parafeddygol (APPs), Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd a mentrau i gefnogi mynediad gwell at ofal deintyddol brys. Mae pob cynllun wedi’i werthuso a’i gefnogi’n frwd (fel arfer am 3-6 mis) i sicrhau bod manteision cynlluniau o’r fath yn cael eu deall yn llawn. Cadwyd y mwyafrif o’r cynlluniau yn eu lle tan ar ôl y Pasg o leiaf.

·      Mae’n hanfodol bod yr agenda gofal sylfaenol brys yn cael ei chynnal gan y swyddogion gweithredol a’i goruchwylio.

·      Mae nifer o gynlluniau peilot wedi’u cychwyn ar draws sefydliadau sy’n adlewyrchu arferion sefydledig (da). Cytunodd timau gweithredol a chlinigol y dylai’r rhain, yn y rhan fwyaf o achosion, yn amodol ar werthusiad priodol, gael eu prif ffrydio a’u cydnabod fel dull arferol o weithredu).

 

Yn gyffredinol, roedd y Panel Adolygiad Cymheiriaid yn edmygu’r ymroddiad a’r ymrwymiad parhaus a ddangoswyd gan yr holl staff a’u pwyslais parhaus ar ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion. Roedd  ‘angerdd’ amlwg dros sicrhau newid cynaliadwy hirdymor yn cyd-fynd â’r agenda gofal sylfaenol brys 24/7 ehangach a’r rhaglen 111 genedlaethol.

 

Cydnabuwyd y gall gwasanaethau y tu allan i oriau gynnig cyfleoedd gweithio a hyfforddi ardderchog i staff. Gall roi cyfle i hyfforddeion a gweithwyr proffesiynol sydd newydd gymhwyso gael dealltwriaeth lawnach o’r system gofal brys ac argyfwng a thrwy sefydlu rhaglen gynefino a mentora barhaus strwythuredig, er mwyn gwella recriwtio a chadw.

 

Mae gan fyrddau iechyd garfan newydd o arweinwyr clinigol a staff gweithredol sydd yn aml ar flaen y gad yn datblygu dulliau newydd o ymdrin â gofal sylfaenol brys yn lleol, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol.

 

Mae’r safonau newydd a uwchraddiwyd mewn ymgynghoriad â chlinigwyr a rheolwyr yn y gwasanaeth yn allweddol i ddatblygu’r model cyflawni newydd ac ymateb o safon uchel i gleifion.

 

Staffio

 

Mae newidiadau IR35 CThEM heb eu datganoli i ‘weithio oddi ar y gyflogres’ yn y sector cyhoeddus wedi cael effaith ar y ffordd y caiff meddygon teulu eu trethu. O Ebrill 2017 mae unrhyw fwrdd iechyd sy’n rhoi gwaith i feddygon teulu drwy gwmni gwasanaethau personol yn gyfrifol am benderfynu a yw’r rheolau IR35 yn berthnasol i’r meddygon teulu hynny y maen nhw’n rhoi gwaith iddynt ac felly a oes rhaid iddynt ddidynnu’r swm priodol o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y ffynhonnell.

 

At hynny, daeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i’r casgliad y dylai meddygon teulu sy’n gweithio’n uniongyrchol i BILlau, boed mewn gwasanaethau y tu allan i oriau neu fel   locwm, gael eu trin o fewn cwmpas IR35 ac felly y dylent fod ‘ar y gyflogres’ gyda’r nod y caiff Didyniadau TWE ac Yswiriant Gwladol eu didynnu yn y ffynhonnell. Daeth y newid hwn i rym ar 1 Tachwedd 2017.

 

Yn ôl adborth gan fyrddau iechyd lleol, nid yw effaith y dyfarniad gan CThEM wedi bod yn arwyddocaol o ran llenwi neu recriwtio gwasanaethau y tu allan i oriau arferol yn GIG Cymru fel y disgwylid i ddechrau.

 

Mae amrywiaeth eang o fentrau cenedlaethol a lleol ar waith i wneud y gwasanaeth y tu allan i oriau yn lle mwy deniadol i weithio. Yn aml, eu nod yw lleihau’r ymdeimlad cyffredinol o unigedd drwy: greu diwylliant tîm, cynyddu ei broffil (y tu allan i oriau), a chynnig rolau wedi’u diffinio’n glir i’r holl staff drwy ddatblygu fframwaith cymwyseddau trawsbynciol - clinigol, rheolaethol a gweinyddol, gwell cyfleoedd hyfforddi a datblygu, lleihau’r ddibyniaeth ar feddygon teulu a chyflwyno gweithwyr proffesiynol/rolau newydd. Er enghraifft:

 

·         Gwaith ar alw/capasiti – o’i gymharu â gwasanaethau gofal eilaidd, nid yw’r adnoddau ar gyfer cefnogi capasiti galw wedi’u datblygu’n llawn gyda gofal sylfaenol. Fel rhan o grŵp gweithlu’r rhaglen strategol, mae modelau o ran capasiti galw yn cael eu hystyried er mwyn darparu dull ‘unwaith i Gymru’ ar gyfer gofal sylfaenol o fewn a thu allan i oriau. Bu’r gwasanaeth tu allan i oriau ar flaen y gad yn y gwaith hwn ac maent yn agos at weithredu un fethodoleg ar gyfer pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru.

·         Rolau Cymru gyfan ar gyfer gofal brys – mae is-grŵp o’r Grŵp Gofal Sylfaenol Brys (y tu allan i oriau) yn ystyried datblygu rolau cenedlaethol ac mae wedi datblygu cyfres o gymwyseddau craidd ar gyfer gofal brys. Bydd y gwaith hwn yn arbennig o bwysig wrth i ni ystyried defnyddio rôl ymarferwyr gofal brys o fewn oriau arferol a thu allan i oriau.

·         Cynllun y gweithlu – mae’r gwaith o fodelu’r galw/capasiti a datblygu rolau gofal brys cenedlaethol yn hanfodol er mwyn llywio cynlluniau ar gyfer y gweithlu. Mae Grŵp Gweithlu’r Rhaglen Strategol yn datblygu’r gwaith o gynllunio’r gweithlu ar gyfer gwasanaethau y tu mewn a thu allan i oriau er mwyn rhoi’r adnoddau i glystyrau a Byrddau Iechyd ddatblygu cynlluniau gweithlu cadarnach ac, yn eu tro, lywio cynlluniau’r IMTP yn y dyfodol. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi’i gysylltu’n llawn â grŵp y gweithlu felly gellir ystyried unrhyw ofynion addysgol neu hyfforddiant wrth iddynt godi.

·         Datblygu gwefan – mae AaGIC wedi ymgymryd â phrosiect i fynd i’r afael ag anawsterau recriwtio staff i weithio y tu allan i oriau drwy gyfrwng datblygiad gwefan unswydd ar gyfer Gofal Sylfaenol y Tu Allan i Oriau a fydd yn darparu siop un stop o wybodaeth, addysg a manylion cyswllt uniongyrchol gwasanaethau y tu allan i oriau lleol. Diben y wefan yw tynnu sylw at gyfleoedd o fewn y gwasanaeth tu allan i oriau a denu a recriwtio darpar staff. Bydd lansio’r wefan ym mis Medi 2019 yn cyd-daro ag ymgyrch cyfryngau cymdeithasol fywiog i godi ymwybyddiaeth ynghylch y gwasanaeth y tu allan i oriau fel dewis gyrfa ymarferol ac yn cefnogi’r gwaith o farchnata cyfleoedd recriwtio a bydd yn cysylltu â gwefan newydd meddygon teulu Cymru. Mae’r amcanion fel a ganlyn:

 

Ø  Gwneud y Gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys y tu allan i oriau yn fwy deniadol i glinigwyr;

Ø  Ehangu’r gronfa o ddarpar staff drwy gynnig gwybodaeth a chymorth y gellir cael gafael arnynt yn hawdd, gan ennyn diddordeb mewn gweithio o fewn y gwasanaethau Gofal Sylfaenol Brys y Tu Allan i Oriau; a

Ø  Darparu adnoddau i hwyluso gweithgareddau recriwtio a chadw staff effeithiol.

 

Safonau

 

Cafodd yr hen (hyd at ddiwedd Mawrth 2019) Safonau Ansawdd a Monitro Cymru ar gyfer Cyflenwi Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau eu datblygu a’u cytuno yn 2014 gan is-grŵp 111 / y Tu Allan i Oriau’r Bwrdd Gofal Brys ac Argyfwng a oedd yn cynnwys y GIG a Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd pedair blynedd i’r gwasanaeth gyflawni’r rhain, erbyn 31 Mawrth 2018.

 

Yn dilyn cyflwyno 111, mae’r gymuned gwasanaethau y Tu Allan i Oriau / 111 wedi bod yn awyddus i greu un gyfres ‘gyffredinol’ o safonau a dangosyddion ansawdd. Y bwriad oedd datblygu cyfres o fesurau y gellid eu mabwysiadu, a’u defnyddio gan bob bwrdd iechyd, waeth a ydynt yn gweithredu 111 neu wasanaeth y tu allan i oriau ai peidio.

 

Mae’r safonau newydd (a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2019) yn seiliedig ar y Safonau Ansawdd a Monitro Cymru ar gyfer Cyflenwi Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau sy’n bodoli eisoes a safonau interim 111, ond yn unol â thystiolaeth gref yn seiliedig ar dystiolaeth barn glinigol, maent yn gyson â’r safonau cyfredol, neu wedi’u ‘llacio’ rhyw fymryn. Er enghraifft, mae ymweliadau cartref, lle y gall niferoedd isel iawn ystumio cyflawniadau o’r mesur wyneb yn wyneb, wedi’u dileu o Fframwaith Cyflawni’r GIG ar gyfer 2019/20 ac felly mae’r mesur bellach yn canolbwyntio ar bresenoldeb mewn Canolfannau Gofal Sylfaenol yn unig.

 

Fel y nodwyd, mae’r safonau newydd wedi’u seilio ar y safonau presennol ac maent wedi’u mireinio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yn y gwasanaeth, gan ddefnyddio arbenigedd gan gydweithwyr clinigol a’r rhai sy’n rheoli’r gwasanaethau y tu allan i oriau / 111. Mae’r safonau wedi’u mireinio drwy’r broses safonau gwybodaeth a chawsant eu cyflwyno ar gyfer sylwadau a thrafodaeth grwpiau rhanddeiliaid allweddol. Cafodd pob un o’r rhain gyfle i gyfrannu tuag at y safonau, gan gynnwys, yn hollbwysig, Fforwm Tu Allan i Oriau’r Meddygon Teulu a Bwrdd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 

Er y cydnabyddir yn gyffredinol bod y safonau’n her i’r gwasanaeth presennol, cytunwyd y byddai’r safonau ‘ymestyn’ hyn yn parhau i lywio’r gwaith o ddatblygu model y ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau. Byddant hefyd yn sbarduno gwelliannau, arloesi, gweithio rhanbarthol / cenedlaethol mewn modd darbodus. Bydd adroddiadau mewnol yn erbyn y safonau hyn yn dechrau ym mis Gorffennaf 2019 ond byddant yn cael eu cofnodi yn Adroddiad Blynyddol 2019/20.

 

Er bod y sail dystiolaeth yn dal i fod yn gymharol fach, ymddengys y bydd y gwaith o gyflawni’r safonau clinigol hyn yn well gan ddefnyddio model 111, gan ei gwneud yn haws cael y clinigwr iawn i’r person iawn ar yr adeg iawn.

 

Perfformiad

 

Mae mesur gwasanaethau y tu allan i oriau wedi bod yn daith gyson a pharhaus. Ers 2004, datblygodd gwasanaethau y tu allan i oriau yn annibynnol ar draws Cymru ac er eu bod yn defnyddio’r un system reoli, sef Adastra, roedd y cyfluniad lleol yn golygu nad oedd cysondeb, safonau na thegwch o ran mynediad at wybodaeth. O’r sylfaen isel hwn, lle nad oedd llawer o wybodaeth ar gael i redeg neu fesur y gwasanaeth, mae llawer o waith wedi’i wneud ar sail Cymru gyfan i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar gael yn gyson hyd at bwynt lle:

 

Mae gwaith manwl yn cael ei wneud i fesur a deall y galw;

 

Mae’r gofynion o ran capasiti a llenwi sifftiau yn cael eu cofnodi mewn modd mwy ystyrlon a chyson;

 

Gellir mesur a monitro safonau’r gwasanaethau y tu allan i oriau blaenorol a newydd yn fwy cyson (er bod rhai problemau o hyd);

 

Mae’r canlyniadau clinigol sydd ar gael o fewn y system yn gyson ac mae modd eu defnyddio fwyfwy at ddibenion meincnodi;

 

Roedd gwybodaeth wrth wraidd yr ymarfer adolygiadau cymheiriaid; a

Cytunwyd ar safonau a’u rhoi ar waith.     

Mae ein perfformiad diweddaraf yn dangos gwelliant yn erbyn y safonau ac mae tystiolaeth o wasanaethau y tu allan i oriau, a gasglwyd yn ystod yr adolygiad cymheiriaid ac wedyn wrth adolygu’r gaeaf yn dangos gwasanaeth sy’n gynyddol gydnerth. Serch hynny, mae hyn yn parhau i fod yn anodd ei ddangos ac rydym yn derbyn bod llawer o waith i’w wneud eto yn y maes hwn i ateb y galw cynyddol am wybodaeth am y model 24/7. Bydd cyflwyno model newydd yn gam mawr ymlaen ac mae llawer o’r ddeialog hyd yn hyn wedi ymwneud â’r data a’r wybodaeth.

 

Y broses o gyflwyno 111

 

Lle rydym yn cyflwyno 111 yng Nghymru, mae hyn eisoes yn gwneud gwasanaethau y tu allan i oriau yn fwy cydnerth - gellir gweld hyn yn Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda, Powys ac yn fwy diweddar Aneurin Bevan, lle mae’r gwasanaeth 111 sy’n rheoli pobl ag anghenion brys yn y cyfnod y tu allan i oriau ar waith. Bydd y gwaith o gyflwyno’r rhaglen 111, sydd i’w gwblhau erbyn 2021/22, yn cefnogi gofal sylfaenol y tu allan i oriau ac yn darparu cyfle da trwy symleiddio’r broses o gael mynediad at wasanaethau i’r cyhoedd, gan ddarparu mwy o aliniad cenedlaethol o ran trafod galwadau a brysbennu clinigol.

 

Mae’r gwasanaeth 111 yn gwella mynediad drwy gyfeirio pobl at wasanaethau a ffynonellau cymorth lleol, gan ddefnyddio rhif ffôn rhad ac am ddim. Maes o law bydd hyn yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyfleoedd amlgyfrwng/digidol eraill. Bydd mwy o waith rhanbarthol a chenedlaethol i ateb y galw am gyngor a thriniaeth ar adegau prysur ac i leihau’r gweithlu yn ddiogel ar adegau tawel.

 

Bydd cysylltiadau â chleifion yn cynyddu yn seiliedig ar waith tîm amlddisgyblaethol; bydd y rhain yn dibynnu llai ar feddygon teulu ond yn rhoi mwy o bwyslais ar eu rôl fel arweinwyr clinigol. Mae systemau cyfathrebu da yn golygu bod timau proffesiynol yn gallu cael mynediad at y cofnodion clinigol diweddaraf, sy’n hollbwysig fel bod pobl yn derbyn gofal priodol, yn enwedig y rhai â chyflyrau cymhleth a/neu ar ddiwedd eu hoes.

 

Mae cynlluniau ar waith i gyflwyno’r gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn ddiweddarach yn 2019/20. Yna, bydd y system yn cael ‘seibiant’ yn ystod yr hydref 2019/20 i gyflwyno platfform TG 111 cenedlaethol newydd i gefnogi’r gwasanaeth. Ar ôl rhoi’r system TG ar waith, bydd y gwaith o gyflwyno’r gwasanaeth 111 yn cael ei ymestyn i fyrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a’r Fro.